Mae fy enaid am ehedeg
Mae fy enaid yn ehedeg

Mae fy enaid am ehedeg
  Ar adenydd ysgafn ffydd,
Ac yn syllu trwy'r eangder
  Uchel, maith, at
          bethau fydd;
    'N awr mi welaf
  Wlad o hedd yn agoshau.

Rhwng cymylau duon, tywyll,
  Gwelaf draw yr hyfryd wlad;
Mae fy ffydd yn llefain allan –
  Dacw o'r diwedd dŷ fy Nhad;
    Digon, digon,
  Mi anghofia 'ngwae a'm poen.

O! gwasgerwch dew gymylau,
  I'r addewid rhoddwch le;
Nid i'r ddaear hon y'm ganwyd,
  Tragwyddoldeb yw fy lle,
    'N ol tywyllwch,
  Cwyd o'r diwedd fore wawr.
am ehedeg :: yn ehedeg

William Williams 1717-91

Tôn [878747]: Catherine (David Roberts 1820-72)

gwelir:
  Nid oes dim erioed a welwyd
  Nid o'r ddaear mae fy mhleser
  O gwasgerwch dew gym(m)ylau
  O na ddôi'r amseroedd bellach
  Rhwng cymylau duon tywyll
  Tyred hyfryd foreu tawel

My soul is wanting to fly
  On light wings of faith,
And staring through the high,
  Vast breadth, towards
          things that shall be;
    Now I see
  A land of peace approaching.

Between dark, black clouds,
  I see afar the delightful land;
My faith is crying out -
  Yonder at last my Father's house;
    Sufficient, sufficient,
  I will forget my woe and my pain.

O that you would scatter, thick clouds,
  To the promise give ye way;
Not for this earth was I born,
  Eternity is my place,
    After the darkness,
  May the morning dawn rise at last!
wanting to fly :: flying

tr. 2017 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~